Cymorth a Chwestiynau Cyffredin
Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am Hanes.
Beth yw ap Hanes Cymru?
Ap llinell amser rhyngweithiol sy'n dod â hanes Cymru'n fyw yw Hanes Cymru. Archwiliwch filoedd o flynyddoedd o hanes, o'r cyfnodau cynharaf hyd heddiw, gan ddarganfod y digwyddiadau, y bobl, a'r lleoedd a luniodd Gymru.
Ydy'r ap ar gael yn Gymraeg?
Ydy. Mae Hanes Cymru yn gwbl ddwyieithog, ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch newid yr iaith ar unrhyw adeg yn y Gosodiadau.
Cychwyn Arni
Sut ydw i'n llywio'r llinell amser?
Mae tair ffordd i archwilio'r llinell amser:
- Sgrolio: Sweipiwch i fyny neu i lawr i symud drwy amser.
- Pinsio i chwyddo: Chwyddwch i mewn ar gyfnod penodol.
- Tapio: Agorwch unrhyw ddigwyddiad i ddarllen mwy.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Erthygl Lawn a Chrynodeb?
Pan fyddwch yn tapio ar ddigwyddiad, gallwch weld naill ai erthygl fanwl lawn neu grynodeb byr. Gallwch ddewis eich dewis yn ystod y gosodiad, neu ei newid yn ddiweddarach yn y Gosodiadau o dan "Arddangos Erthyglau".
Premiwm
Beth mae Premiwm yn ei gynnwys?
Mae'r pryniant premiwm yn un un-tro o sy'n rhoi'r canlynol i chi:
- Llinell amser cyflawn gyda phob digwyddiad
- Trysorau - sdiceri cudd i'w darganfod drwy'r ap
- Cadw ffefrynnau am fynediad cyflym
- Ychwanegu eich digwyddiadau personol eich hun
- Map rhyngweithiol yn dangos ble digwyddodd pethau
- Pen-blwyddi - darganfyddwch ddigwyddiadau gyda cherrig milltir eleni
Sut ydw i'n adfer pryniant blaenorol?
Os ydych wedi prynu Premiwm yn flaenorol ac angen ei adfer (e.e. ar ddyfais newydd), ewch i'r Gosodiadau a thapiwch "Adfer Pryniannau". Bydd eich pryniant yn cael ei adfer yn awtomatig.
Sut ydw i'n gofyn am ad-daliad?
Prosesir pryniannau drwy Google Play (neu'r App Store). Dylid cyfeirio ceisiadau am ad-daliad at y siop berthnasol. Nid yw Hanes Cymru yn prosesu taliadau'n uniongyrchol.
Methu talu ar hyn o bryd neu yn gweithio ym myd addysg?
Prosiect hobi yw Hanes Cymru. Mae unrhyw incwm premiwm yn mynd i dalu am gostau rhedeg yn unig (trwyddedu datblygwr, parth, a chostau chynnal).
Os yw'r pris yn rhwystr, neu os ydych chi'n athro / athrawes sy'n dymuno defnyddio'r ap gyda'ch dosbarth, cysylltwch cymorth@hanes.cymru ac mi yrraf god mynediad am ddim i chi.
Nodweddion
Sut ydw i'n ffefrynnu eitem?
Porwch at ddigwyddiad yn y llinell amser a thapiwch yr eicon calon i'w arbed. Gallwch weld eich holl ffefrynnau wedi'u cadw o'r brif ddewislen.
Sut ydw i'n ychwanegu fy nigwyddiadau fy hun?
Gyda Premiwm, defnyddiwch y nodwedd "Fy Hanes" yn y brif ddewislen. Tapiwch + i ychwanegu teitl, dyddiad, a disgrifiad. Bydd eich digwyddiad yn ymddangos ar y llinell amser.
Sut ydw i'n dewis pa ddigwyddiadau sy'n ymddangos?
Ewch i'r Gosodiadau a thapiwch "Addasu'r llinell amser". Yno gallwch ddewis pa ddigwyddiadau hanesyddol i'w dangos neu eu cuddio yn y linell amser.
Gosodiadau
Sut ydw i'n newid y thema?
Ewch i'r Gosodiadau a thapiwch "Thema". Gallwch ddewis rhwng Golau, Tywyll, neu Ragosodiad y system (sy'n dilyn gosodiadau eich dyfais).
Sut ydw i'n diweddaru data'r llinell amser?
Ewch i'r Gosodiadau a thapiwch "Adnewyddu'r llinell amser" i lawrlwytho'r data diweddaraf. Mae angen cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer hyn.
Datrys Problemau
Mae'r ap yn dweud "Methu llwytho'r ddewislen"
Mae hyn yn golygu nad yw'r ap yn gallu cyrraedd API Hanes. Gwiriwch eich cysylltiad rhyngrwyd a cheisiwch eto. Gallwch hefyd geisio adnewyddu'r llinell amser o'r Gosodiadau.
Sut ydw i'n dileu fy nata?
Mae eich holl ddata (gosodiadau, ffefrynnau, digwyddiadau personol) yn cael eu storio'n lleol ar eich dyfais. Gallwch eu dileu drwy glirio data'r ap neu ddadosod yr ap.
Angen mwy o help?
Os nad yw eich cwestiwn wedi'i ateb uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni yn cymorth@hanes.cymru a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.